2014 Rhif 122 (Cy. 12)

Y Dreth gyngor, Cymru

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2014   

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

 

Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (“Rheoliadau 1993”) yn gwneud darpariaeth ynghylch materion i'w cynnwys, a gwybodaeth i'w darparu, gyda hysbysiadau galw am dalu'r dreth gyngor a gyflwynir gan awdurdodau bilio Cymru neu ar eu rhan. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1993 er mwyn cymryd i ystyriaeth gyflwyniad cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor lleol yn unol â gofynion Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 neu sy'n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae'r diwygiadau a wneir i Reoliadau 1993 yn galluogi cymryd y gostyngiadau a wneir yn unol â Rheoliadau 2013 i ystyriaeth wrth filio a gorfodi'r dreth gyngor.

Mae Rheoliad 3 yn rhoi cyfeiriadau at Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 yn lle’r cyfeiriadau yn Rheoliadau 1993 at Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor  (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013.

Darpariaethau arbed yw rheoliadau 4 a 5 sy'n darparu nad yw'r  diwygiadau a wneir i reoliadau 1993 yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw geisiadau a wneir neu ostyngiadau a ddyfernir yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 neu gynllun sy'n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.


2014 Rhif 122 (Cy. 12)

Y Dreth gyngor, cymru

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2014   

Gwnaed                                22 Ionawr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       24 Ionawr 2014

Yn dod i rym                      14 Chwefror 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992([1]), a pharagraffau 1(1) a 2(4)(e) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]).  

RHAN  1

Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso 

1.(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Chwefror 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

RHAN  2

Diwygio

Diwygio Rheoliadau

2. Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993([3]) yn unol â rheoliad 3.   

3. Yn Atodlen 1 (materion i'w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu) ym mharagraff 8A—

(a)     yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a) the reasons for the reduction and its amount;”;

(b)     yn lle is-baragraff (b)(i) rhodder—

(i)  informing the person affected of the duty imposed by paragraph 113(1) of the scheme prescribed by the Schedule to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2013([4]) or contained in the authority’s scheme by virtue of paragraph 7(1) of Schedule 13 to the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013([5]), as the case may be;”.

RHAN  3

Arbed

Dehongli

4. Yn y rhan hon o'r Rheoliadau—

ystyr “cynllun 2013” (“2013 scheme”)  yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau 2012 neu sy'n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;   

ystyr “Rheoliadau 1993” (“2013 Regulations”)  yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993;

ystyr “Rheoliadau 2012” (“2012 Regulations”)  yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012([6]).

Darpariaeth Arbed

5. Nid yw'r diwygiadau a wneir i Reoliadau 1993 gan reoliad 3 yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw geisiadau a wneir neu ostyngiadau a ddyfernir yn unol â darpariaethau un neu ragor o gynlluniau 2013.

 

 

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth , un o Weinidogion Cymru

 

22 Ionawr 2014

 



([1])           1992 p.14. Diwygiwyd adran 113(1) a (2) gan baragraffau 40 a 52 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26), ac adran 80(4) i (6) o Ddeddf Lleoliaeth  2011 (p. 20). Cafodd diwygiadau perthnasol pellach eu gwneud  i Atodlen 2 gan adrannau 10 (cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor) ac 16 (darparu gwybodaeth am y dreth gyngor) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17), ac Atodlen 1 iddi.

([2])           Mae'r pwerau hyn bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Cawsant eu trosglwyddo'n flaenorol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnodion yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

                  Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru.

([3])           O.S. 1993/255. Cafodd diwygiadau perthnasol eu gwneud gan O.S. 2004/460 (Cy.45), O.S. 2006/217 ac O.S. 2013/63 (Cy.14).

([4])           O.S. 2013/3035 (Cy.303).

([5])           O.S. 2013/3029 (Cy.301).

([6])           O.S. 2012/3144 (Cy.316) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/112 (Cy.17).